Mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau ('TPR') yn rheolydd data at ddibenion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ('GDPR') a Deddf Diogelu Data 2018. Byddwn yn prosesu eich data personol yn unol ag unrhyw un o'n swyddogaethau a'n hamcanion statudol.
Nid yw cwblhau'r ffurflen hon yn orfodol. Fodd bynnag, mae angen eich gwybodaeth gyswllt i alluogi TPR i ymateb i'ch ymholiad.
Lle byddwch yn rhoi eich gwybodaeth i ni trwy gydsyniad, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg gan ddefnyddio'r manylion isod. Lle byddwch yn darparu data personol unigolyn arall gofynnwn i chi sicrhau bod gennych y caniatâd neu'r awdurdod angenrheidiol i wneud hynny.
Gallwn rannu gwybodaeth amdanoch chi gydag adrannau eraill o'r llywodraeth neu gyrff cyhoeddus ond nid cyn cynnal asesiad effaith diogelu data i sicrhau bod eich hawliau'n cael eu gwarchod. Nid ydym yn gwerthu, rhannu na chyflenwi data personol at ddibenion masnachol.
Byddwn ond yn storio eich data personol cyhyd ag y mae amserlen gadw TPR yn caniatáu. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwch yn gallu arfer hawliau penodol mewn perthynas â'ch data personol megis yr hawl i gyrchu, gwrthwynebu a hygludedd data. Os ydych yn teimlo ein bod wedi trin eich data personol mewn modd anghyson â'ch hawliau, gallwch gyflwyno cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ('ICO').
Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r datganiad preifatrwydd hwn neu sut rydym yn trin eich data personol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data ('DPO') trwy e-bost yn dpa@tpr.gov.uk neu gallwch ysgrifennu atom yn Telecom House, 125-135 Preston Road, Brighton, BN1 6AF. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae eich data personol yn cael eu defnyddio, eu cadw'n ddiogel a'ch hawliau ar gael drwy ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd.